Psalms 33

Cân o fawl

1Chi rai cyfiawn, canwch yn llawen i'r Arglwydd!
Mae'n beth da i'r rhai sy'n byw'n gywir ei foli.
2Molwch yr Arglwydd gyda'r delyn;
canwch iddo ar yr offeryn dectant.
3Canwch gân newydd iddo
i gyfeiliant hyfryd a bwrlwm llawenydd.
4Achos mae beth mae'r Arglwydd yn ei ddweud yn iawn;
ac mae'r cwbl mae'n ei wneud yn gywir.
5Mae e'n caru beth sy'n deg ac yn gyfiawn;
ac mae ei ofal ffyddlon i'w weld drwy'r byd i gyd.
6Dwedodd y gair, a dyma'r awyr yn cael ei chreu.
Anadlodd, a daeth y sêr a'r planedau i fod.
7Mae e'n casglu dŵr y moroedd yn bentwr,
ac yn ei gadw yn ei stordai.
8Dylai'r byd i gyd barchu'r Arglwydd!
Dylai pob person byw ei ofni!
9Siaradodd, a digwyddodd y peth;
rhoddodd orchymyn, a dyna fu.
10Mae'r Arglwydd yn drysu cynlluniau'r cenhedloedd,
ac yn rhwystro bwriadau pobloedd.
11Beth mae'r Arglwydd yn ei fwriadu sy'n aros.
Mae ei gynlluniau e yn para ar hyd y cenedlaethau.
12Mae'r genedl sydd a'r Arglwydd yn Dduw iddi
wedi ei bendithio'n fawr,
sef y bobl hynny mae wedi eu dewis yn eiddo iddo'i hun.
13Mae'r Arglwydd yn edrych i lawr o'r nefoedd;
ac mae'n gweld y ddynoliaeth gyfan.
14Mae'n syllu i lawr o'i orsedd
ar bawb sy'n byw ar y ddaear.
15Mae wedi gwneud pawb yn wahanol,
ac mae'n sylwi ar bopeth maen nhw'n ei wneud.
16Nid byddin fawr sy'n achub y brenin;
na'i gryfder ei hun sy'n achub milwr dewr.
17Dydy march rhyfel ddim yn gallu ennill brwydr;
er ei fod mor gryf, dydy e ddim yn gallu achub.
18Yr Arglwydd sy'n gofalu am ei bobl,
sef y rhai sy'n credu ei fod e'n ffyddlon.
19Fe sy'n eu harbed nhw rhag cael eu lladd,
ac yn eu cadw nhw'n fyw mewn cyfnod o newyn.
20Mae'n gobaith ni yn yr Arglwydd!
Fe sy'n ein helpu ni, ac yn darian i'n hamddiffyn.
21Fe sy'n ein gwneud ni mor llawen!
Dŷn ni'n credu yn ei enw sanctaidd e.
22O Arglwydd, gad i ni brofi dy haelioni,
gan ein bod wedi credu ynot ti.
Copyright information for CYM